At sylw: Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu

Tystiolaeth Pellach – Mentrau Iaith

Yn dilyn cynrychiolaeth o Fentrau Iaith mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Fedi’r 20fed 2020, nodwyd y cwestiynau a’r ymholiadau ychwanegol isod gan aelodau’r Pwyllgor. Gweler isod atebion a sylwadau mewn ymateb i’r cais am wybodaeth pellach.

 

Beth fu'r heriau allweddol o ran darparu cynnwys a gweithgareddau digidol ar-lein, a beth fu'ch profiadau gyda chysylltedd yn ystod y pandemig, fel cysylltiad band eang gwael ac arafwch? Sut mae hyn wedi effeithio ar eich gallu i gyflawni eich gweithgareddau?

Ar y cyfan nododd Mentrau Iaith nid oedd diffyg cyswllt band eang yn ormod o broblem oherwydd bod y cysylltiad band eang yn weddol yn y rhan fwyaf o ardaloedd.  Serch hynny, nodwyd bod cyswllt we gwael yn her o fewn rhai ardaloedd mwy gwledig yn y Gogledd a’r Gorllewin. Ceir tystiolaeth o ddiffyg difrifol o sabwynt ansawdd y cyswllt band eang o fewn rhai ardaloedd. Bu hwn yn rhwystr o sabwynt gallu aelodau o’r cyhoedd i gael mynediad at wasanaethau a gweithgareddau yn ogystal â lleoliad gweithwyr.Ceir enghreifftiau o heriau pan fo gweithwyr yn byw mewn ardaloedd heb gyswllt band eang da gydag unigolion yn colli cyswllt ac yn methu cyflawni dylestswyddau oherwydd hynny.

Nodwyd bod amrywiaeth o ran sgiliau digidol gweithwyr wedi bod yn her ac yn ystyriaeth bwysig yn ystod y cyfnod. Byddai gallu cael mynediad at hyfforddiant sgiliau digidol amrywiol gan gynnwys sgiliau sylfaenol ac uwch, trwy gyfrwng y Gymraeg wrth i fudiadau addasu at waith a-lein, wedi bod yn fanteisiol iawn.

 

Wrth addasu gwasanaethau i fod yn ddigidol neu’n rhithiol mae rhai elfennau wedi bod yn heriol yn enwedig wrth ddarparu ar gyfer y genhedlaeth hŷn o’n cymunedau.  Fodd bynnag mae seisynau i bobl ifanc, teuluoedd ac i blant oedran cynradd wedi bod yn fwy poblogaidd nag erioed - er bod gweithgareddau wedi gorfod newid yn sylweddol, rydym wedi gallu denu mwy o gynulleidfa gan nad oes angen i’r cyhoedd deithio. Mae’r newid hwn hefyd wedi arbed amser staff ond hefyd wedi sicrhau bod gwasanaethau a chyfleoedd yn agored i blant ar draws Cymru gyfan. Ein pryder yw nad ydym yn medru sicrhau mynediad i’r cymunedau hynny lle nad oes cysylltiad band eang o safon uchel.

 

Gwelwyd rhai enghreifftiau o sefydliadau eraill, megis ysgolion dim ond yn medru defnyddio meddalwedd penodol wrth gysylltu ac felly ar adegau nid oedd yn bosib cynnig mynediad at weithgarwch a gwasanaethau rhai o’r Mentrau Iaith.

 

 

A oes gennych unrhyw dystiolaeth / enghreifftiau o'ch aelodau / rhanddeiliaid yn cael problemau o ran cael mynediad i’ch cynnwys a'ch gweithgareddau digidol? Sut mae hyn wedi effeithio arnynt a'u gallu i ryngweithio?

Fel y nodir uchod, ceir rhai enghreifftiau o gysylltiad band eang gwael mewn ardaloedd.Golyga hwn ar adegau y bu’r cyhoedd yn cael trafferthion wrth geisio ymuno â gweithgareddau ac felly yn colli cyfleoedd i gymdeithasu a chael mynediad at wasnaethau. Ar y cyfan, niferoedd bychan sydd wedi eu effeithio yn y ffordd hwn. Serch hynny, gwelwyd enghreifftiau ymysg aelodau mwy hŷn o’n cymunedau o sgiliau digidol gwael a diffyg hyder yn ogystal â phryder wrth ddefnyddio dechnoleg er mwyn cymdeithasu a manteisio ar wasanaethau. Bu nifer o’r Mentrau felly yn cefnogi unigolion ynysig a mwy bregus i ddatblygu hyder wrth ddefnyddio technoleg er mwyn manteisio ar gyfleoedd a oedd yn fuddiol iawn o safbwynt eu lles.

Bu tudalen Facebook yn profi’n lwyddiant ond wrth gwrs nid yw pawb yn medru eu dilyn os nad ydynt ar Facebook. Mae’r rhan fwyaf o’r gweithagreddau yn cael eu cynnwys o fewn cylchlythyron wythnosol yn ogystal ag ar wefannau. I rai aelodau hŷn y gymuned sydd yn mynychu nifer o weithgareddau wyneb yn wyneb megis boreau clonc  choffi a theithiau cerdded maent yn dewis peidio defnyddio’r we ac felly rhaid oedd addasu gwasnaethau i fod yn ddiogel ac yn yr awyr agored.

 

A allwch chi roi sylwadau ar yr effaith y bydd diffyg mynediad at wasanaethau rhyngrwyd dibynadwy a diogel yn ei chael ar eich gallu i ddarparu gweithgareddau a chynnwys digidol yn y dyfodol, neu feintioli hyn?

Nid ydym yn rhagweld y bydd anawsterau sylweddol o ran ein gallu ni i gael mynediad at wasanaethau dibynadwy. Petai hynny’n digwydd, yn naturiol byddai Mentrau yn methu parhau i ddarparu’r rhaglen wythnosol sydd ar waith ar hyn o bryd.

Mae’r pryder mwyaf er hynny yn codi o ystyried aelodau o’r cyhoedd sydd heb unrhyw fynediad o gwbwl i wasanaethau rhyngrwyd dibynadwy neu â sgiliau a hyder digidol isel yn enwedig y genhedlaeth hŷn efallai. Mae gwir angen ystyried dulliau o gyrraedd aelodau o’r cyhoedd sydd wedi eu ynysu dros y 6 mis diwethaf oherwydd diffyg sgiliau neu gyfarpar neu gyswllt digidol.  Gwelwn cyswllt cryf iawn rhwng lles siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg â mynediad at wasnaethau cyfrwng Cymraeg.

Heb fynediad at wasanaethau rhyngrwyd dibynadwy a diogel fasai hi’n heriol wrth i ni barhau i weithio er mwyn darparu gwasanaethau a chynnwys digidol. Ar adegau nid oes modd i weithwyr ddefnyddio’r swyddfa’n ddiogel ac felly yn gorfod gweithio o bell.

 

A fydd yr argyfwng hwn yn newid eich gweithgareddau craidd yn y dyfodol (e.e. mwy o fuddsoddiad mewn technoleg ddigidol a mathau eraill o weithgareddau lle mae modd cadw pellter cymdeithasol)?

Yn seiliedig ar lwyddiant y rhaglen o weithgareddau digidol bydd y Mentrau yn sicr yn ystyried cynnwys gweithgareddau digidol yn rhan o’n rhaglen waith craidd i’r dyfodol. O wneud hynny bydd angen i ni sicrhau bod ein staff yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol ac yn medru cael mynediad at hyfforddiant perthnasol yng nghyswllt hynny. Mae’r Mentrau eisoes wedi buddsoddi mewn offer i gynorthwyo paratoi rhaglenni pellach gyda offer hefyd wedi ei bwrcasu fel adnodd i gymunedau i’w logi mewn rhai ardaloedd.  

Bydd rhaid addasu yn dilyn y cyfnod hwn. Mae cynnal gweithgarwch yn y gymuned yn holl bwysig ac yn fuddiol i unigolion, yr economi a’r gymuned yn gyfan gwbwl. Mae’r cyfnod diweddar wedi profi mor llwyddiannus mae digwyddiadau a gweithgareddau ar-lein yn gallu bod ac felly rhagwelir bod angen buddsoddi mewn technoleg digdiol.

Bydd angen addasu rhai gweithgareddau er mwyn galluogi ymbellhau cymdeithasol gan ystyried mwy o weithgareddau awyr agored.. Rydym hefyd yn ystyried pa weithgareddau gallwn gynnig yn ddiogel, gan ystyried buddsoddi mewn offer penodol i gynnal gweithgarwch awyr agored.

Mae’r sefyllfa sydd ohoni wedi ein gwneud yn ymwybodol ei fod yn bosibl bydd y fath beth yn digwydd eto yn y dyfodol. Felly yn sicr bydd Mentrau yn ceisio buddsoddi mwy mewn technoleg ddigidol er mwyn hwyluso gweithgareddau lle mae modd cadw pellter cymdeithasol a gweithio o bell yn fwy effeithiol.  Hoffem hefyd barhau i ddatblygu’r ymgyrchoedd digidol sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ystod y cyfnod hwn (a datblygu rhagor) a’u cynnwys yn ein rhaglen waith barhaol yn y dyfodol.

Rydym hefyd wedi gwneud defnydd helaeth o Zoom/Microsoft Teams i gynnal cyfarfodydd ar lein yn ystod y cyfnod hwn, ac yn sicr byddwn yn ceisio gwneud llawer mwy o ddefnydd o’r dechnoleg hon i drefnu cyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn arbed amser a chostau teithio a lleihau llygredd awyr.

O ran Patrymau Gwaith rydym wedi gweld bod gweithio gartref yn bosibl ac yn gweithio’n effeithiol, ac felly byddwn yn ystyried patrymau gwaith gwahanol i staff yn y dyfodol a chaniatáu gweithio o adref lle bo’n briodol i wneud hynny - unwaith eto er mwyn torri costau teithio a lleihau llygredd awyr yn ogystal â chefnogi arfer da o ran budd gweithwyr.

 

Pa fesurau neu adnoddau y gallai fod eu hangen gan Lywodraeth Cymru i liniaru unrhyw effaith hirdymor ar y Gymraeg?

O safbwynt y Mentrau Iaith, sydd â rôl allweddol o ran cynyddu defnydd y Gymraeg ar draws ein cymunedau, hoffem bwysleisio’r angen am adnoddau ariannol digonol i’n galluogi i weithio i’n llawn botensial.  Rydym felly yn gofyn am fuddsoddiad teg i’r rhwydwaith o Fentrau Iaith ac yn benodol cyllideb o £100,00 ar gyfer pob Menter Iaith. Teimlir bod y gyllideb hwn yn rhoi sylfaen a seilwaith gadarn i bob Menter Iaith ar draws Cymru a fydd yn ein galluogi i fod yn gynaladwy ac mewn sefyllfa gryf er mwyn datblygu prosiectau arloesol a phell-gyrhaeddiol. Nid yw’r mwyafrif o Fentrau Iaith wedi derbyn unrhyw gynnydd (gan gynnwys chwyddiant) yn eu grantiau craidd gan Lywodraeth Cymru ers ryw 8 mlynedd sydd bellach yn effeithio ar ein gallu i ddylanwadu’n ddigon effeithiol ar ddefnydd cymunedau o’r Gymraeg.

Mae hefyd angen fod yn wyliadwrus o golli rhannau o is-adeiladwaith a sylfaeni sefydliadol y Gymraeg o safbwynt mudiadau fel yr Urdd sydd yn cyflogi gweithlu sylweddol.

Teimlwn fod sicrhau mynediad band eang ar draws Cymru gyfan yn enwedig mewn ardaloedd gwledig yn allweddol. Dylid rhoi ystyriaeth i ymgyrch a fydd yn sicrhau bod pob aelod o gymdeithas a’r gallu i gael mynediad at wasanaethau a ddarperir ar-lein.  Rydym hefyd yn galw am ragor o dechnoleg a chynwwys digidol cyfrwng Cymraeg. 

 

 

 

 

Wrth edrych ar sectorau eraill  sydd yn cynnal y Gymraeg megis y sector amaeth, gellir gweld bygythiad a pherygl sylweddol yn sgîl effeithiau BREXIT. Mae angen hefyd felly ystyried effaith COFID-19 yn ogystal â BREXIT ar hyfywedd y Gymraeg a’r cyfleoedd i gynyddu defnydd y Gymraeg. Ar ben hyn holl mae galw am ail-dai a tai yn gyffredinol gan bobl o ardaloedd eraill o Brydain yn sgil yr argyfwng COFID19 â’r potensial i ddifrodi Cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae angen ymyrraeth trwy'r drefn cynllunio.

 

 

A ddylai effaith yr argyfwng newid blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector, yn enwedig mewn perthynas â chynllun Cymraeg 2050?

Awgrymir y dylid adolygu’r polisi unwaith y bydd holl effeithiau’r argyfwng ar wahanol sectorau yn hysbys – mae’n annhebygol y bydd hynny’n eglur am rai misoedd. Serch hynny, mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried eu blaenoriaethau polisi ar gyfer y sector yn enwedig mewn perthynas â chynllun Cymraeg 2050 yn sgil yr argyfwng oherwydd bod y sefyllfa wedi effeithio ar dwf y Gymraeg mewn sawl ffordd gan gynnwys plant o gartrefi di-Gymraeg yn colli cysylltiad â’r Gymraeg yn yr ysgolion (a rhieni’n ystyried peidio â dewis addysg cyfrwng Cymraeg neu symud eu plant o ysgolion cyfrwng Cymraeg oherwydd hynny) a’r Sector Cyhoeddus a Gwirfoddol yn peidio â chydymffurfio a’u safonau neu bolisïau iaith ar y sail bod cyfathrebu ar frys mewn argyfwng yn fwy pwysig na chyfathrebu yn ddwyieithog.  Mae hyn wedi gosod eu defnydd o’r Gymraeg yn ôl sawl blwyddyn a’r pryder yw y bydd yr arfer hwn yn parhau wedi’r argyfwng oherwydd erbyn hynny dyna fydd y ‘norm’ eto.

Ceir nifer o gyfleoedd newydd hefyd yng ngwyneb yr argyfwng rydym yn ei wynebu gan gynnwys y canlynol:

·         Defnyddio'r tueddiad i weithio mwy o adref o blaid y Gymraeg.

 

·         Defnyddio'r Gymraeg a'r galw am wasanaethau cyfrwng Cymraeg i greu cyfleoedd am waith newydd. Dylid ystyried cynorthwyo'r Mentrau Iaith neu Mentrau Cymdeithasol  i gyflawni hyn trwy rwydwaith o swyddogion Mentrau Cymdeithasol a fyddai’n cefnogi sefydlu trawstoriad o fusnesau cyfrwng Cymraeg newydd.

 

·         Ymestyn seilwaith y Gymraeg trwy cynyddu'r sefydliadau cyhoeddus sydd yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg. 

 

·         Gwell cydlyniant o sgiliau yn y Gymraeg a gwaith yn y Gymraeg. Ar hyn o bryd amlygir cyfleoedd niferus o safbwynt datblygu gweithlu cyfrwng Cymraeg gyda sgiliau digidol o safon uchel.